Etsy - DewiWynPwllheli Mat Diod Mam | Nain Mamgu - Cymraeg Sul Y Mamau Welsh Gift Coaster

Etsy UK £6.99 Go to Etsy UK First seen in Jan 2022
Description
Siop Dewi Wyn Siop Luniau Pwllheli/Pwllheli Photo Shop Mat Diod Mam | Nain | Mamgu Mat(iau) diod ar gyfer mam, nain neu famgu arbennig! Maent yn cynnwys dyluniad o flodau dyfrliw ar dop a gwaelod gyda'r enw 'Mam', 'Nain' neu 'Mamgu' (neu unrhyw enw o'ch dewis) wedi ysgrifennu mewn aur yn y canol. Byddai'n gwneud anrheg arbennig i Sul y Mamau, Pen-blwydd neu Nadolig. Mae'r matiau diod sgwr yn mesur o gwmpas 9cmx9cmx3mm, gyda chefn pren. Mae'r matiau diod i gyd yn dod mewn gorffeniad sglein uchel ac mae'r lliw ar eich lluniau yn llachar. I sicrhau fod y matiau diod yn edrych ar eu gorau, glanhewch y mat gyda chlwt tamp. Peidiwch defnyddio unrhyw lanhawyr sgraffiniol (abrasive) na cemegol. Sut i bersonoli? Dewiswch y nifer o fatiau diod a'r dyluniad blodau a ddymunir o'r rhestrau gostwng. Nodwch yr enw ar gyfer y mat diod (e.e. Mami) yn y blwch 'Personalisation'. Os hoffech chi brynu mwy nag un mat diod a defnyddio gwahanol gefndiroedd, nodwch nhw yn y blwch 'Personalisation' e.e. Mam - blodau piws a melyn Chwaer - blodau pinc SYLWCH: Gall unrhyw eitem gael ei bersonoli mewn unrhyw ffordd os oes angen. Os nad ydych chi'n gweld yr hyn rydych chi eisiau ymhlith ein eitemau, cysylltwch gyda ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Cofier Gall lliwiau amrywio o'r hyn sydd yn ymddangos ar y sgrin oherwydd gosodiadau monitor cyfrifiadur a sut mae lliwiau yn trosglwyddo yn ystod ein proses argraffu. Mae'r mat(iau) diod yn cael ei wneud yn arbennig i'r cwsmer, ni allwn gynnig ad-daliad (refund) ar eitemau sydd wedi'u personoli. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod y wybodaeth yn gywir Gallwch weld gweddill o'n casgliad ar ein tudalen - https://www.etsy.com/uk/shop/DewiWynPwllheli Mat Diod Mam | Nain Mamgu - Cymraeg Sul Y Mamau Welsh Gift Coaster
You may also like
Discover more
We may earn a commission when you use our links to visit a store and make a purchase. We use cookies to enhance your experience with us. Read more. OK